Am yr iaith Esperanto
Mae'r erthygl hon wedi'i thynnu o Geiriadur Esperanto/Kimra Vortaro, J.C. Wells, 1985, Llundain: Group Five.1. Beth yw Esperanto? | 2. Orgraff ac ynganiad |
3. Morffoleg (ffurfdroadau) | 4. Cystrawen | Rhestr atodiaid1. Beth yw Esperanto?
Y mae Esperanto yn iaith ryngwladol — yr iaith ryngwladol. Dyfweisiwyd gan y Dr Zamenhof yn 1887 er mwyn hwyluso'r nod o gael pobloedd y byd oll i ddeall ei gilydd yn well. Siaredir Esperanto erbyn hyn gan fwy na miliwn o bobl ar bob cyfandir o'r byd. Yn wir trawsffurfiwyd hi o fod yn gynllun a grewyd ym myfyrgell un dyn i fod yn iaith fyw, lafar, lenyddol.
Nid yw Esperanto wedi ei bwriadu i ddisodli'r un iaith genedlaethol; yn hytrach bwriedir iddi fod yn ail iaith i bawb o bobl y byd. Nid yw lledaenu Esperanto yn golygu anwybyddu ieithoedd y lleiafrif: i'r gwrthwyneb, ei bwriad yw eu diogelu.
Mae ei chefnogwyr yn credu fod gan Esperanto ddwy brif fantais: ei bod yn niwtral, a'i bod yn hawdd i'w dysgu.
Ni pherthyn Esperanto nac i un wlad yn neilltuol nac i un blaid yn arbennig. Dyna wahaniaeth pwysig rhyngddi hi a'r ymgeiswyr eraill sy'n ceisio datrys y broblem o gyfathrebu rhyngwladol (e.e. y Saesneg). Yn y byd cyfoes mae imperialaeth ieithyddol yn ffaith. Bygythir dileu ieithoedd a diwylliannau y cenhedloedd bychain. Fe ddengys astudiaethau diweddar fod a wnelo economeg a gwleidyddiaeth rym llawer iawn â modd y defnyddir un iaith ar draul y llall. Ni fyddai defnyddio iaith gyffredinol niwtral, fel Esperanto, yn ffafrio unrhyw wlad yn hytrach na'r llall.
Nid oes yn Esperanto yr un afreoleidd-dra nag eithriad. Mae pob adfran ohoni'n rheolaidd ac mae'r baich o ddysgu geiriau wedi ei gryn ysgafnhau drwy ei system athrylithgar o ragddodiaid, olddodiaid, a therfyniadau gramadegol. Heblaw am hyn mae Esperanto yn rhyngwladol o ran ei hadeiladwaith ieithyddol. Mae ei sylfaen geiriadurol yn tarddu oddi wrth wahanol ieithoedd Ino-Ewropeaidd, ac yn arbennig o'r Ffrangeg, Lladin, Almaeneg, Saesneg a Rwsieg.
Mae ambell air yn hawdd iawn i'r Cymro Cymraeg ei adnabod, e.e. fenestro (ffenestr), muro (mur, wal), kredi (credu), ponto (pont), tridek naŭ (tri deg naw). Mae cystrawen y frawddeg Esperanto yn dilyn patrymau cyfarwydd Ewropeaidd, er nad yw ffurfiant geiriau (morffoleg) Esperanto yn nodweddiadol o ieithoedd Ewropeaidd o gwbl, gan ei fod yn 'gyfludiol' (aglutina, S. agglutinative): mae pob gair wedi ei adeiladu o elfennau â chanddynt ffurf ac ystyr cyson. Fe geir yr un drefn gyfludiol mewn Tyrceg, mewn Japaneg, yn yr ieithoedd Bantŵ, etc.: mae hi'n gyfleus iawn i'r dysgwr.
Y gymdeithas sydd yn gofalu am ochr ryngwladol y mudiad Esperantaidd yw Universala Esperanto-Asocio, Nieuwe Binnenweg 176, 3015 BJ Rotterdam, Yr Iseldiroedd. Ar gyfer Prydain ceir y British Esperanto Association, Wedgwood Memorial College, Barlaston, Stoke-on-Trent ST12 9DG.
2. Orgraff ac ynganiad
2.1. Ysgrifennir Esperanto, yr un fath â'r Gynraeg, âr wyddor Ladinaidd, heb ambell lythyren ond ynghyd ag ambell do neu gryman uwchlaw. Ni ddefnyddir y llythrennau q, w, x, y. Seinir pob gair yn ôl fel yr ysgrifennir ef. Sylwer ar y rhain a ganlyn, sy'n wahanol i'r rhai Cymraeg:
c = ts yn atsain ĉ = tsh, neu ch Saesneg f = ff Cymraeg ĝ = j Saesneg ĥ = ch Cymraeg j = i yn iawn (i cytsain) ĵ = j Ffrangeg, h.y. s yn vision Saesneg k = c Cymraeg ŝ = si yn siarad, neu sh Saesneg u = w Cymraeg ŭ = w yn iawn (w cytsain) 2.2. ACEN. Mewn gair lluosill, y goben a acennir yn Esperanto bob amser, sef y sillaf olaf ond un, yn union fel yn y Gymraeg. Gwneir sillaf wahanol am bob llafariad, fel yn creadur a lleol: homo, kreado, teo, enuas, staranta, vizitas, historio.
2.3 Cytseiniaid (neu ledlafariaid) yw'r j a'r ŭ, felly sain unsill yw'r aŭ, eŭ, aj, oj, uj, ac ej (fel yn naw, llew, rhai, rhoi, mwy; ej fel yn cei neu yn stay Saesneg). Gan hynny acennir y sillaf gyntaf yn y geiriau ankaŭ, bonaj, ĉiuj, etc., a'r ail mewn apenaŭ, anstataŭ.
2.4. Felly mae gan Esperanto 23 o ffonemau cytseiniol a 5 ffonem llafarog.
/p/ papero /b/ babili /t/ tute /d/ demandi /k/ kuko /g/ giganto /c/ celo /ĉ/ ĉapo /ĝ/ ĝui /f/ fajfi /v/ vivi /s/ ses /z/ zigzago /ŝ/ ŝelo /ĵ/ ĵeti /ĥ/ ĥoro /h/ havas /m/ mem /n/ nenio /r/ ripari /l/ lulilo /j/ jaroj /ŭ/ laŭta
/i/ indiki /u/ tumultus /e/ revene /o/ kolonoj /a/ kapabla 3. Morffoleg (Ffurfdroadau)
3.1. ENWAU. Ffurfir y rhannau ymadrodd o fonau (wreiddiau) drwy ychwanegu terfyniad. Ffurfir enw drwy ychwanegu -o at y gwreiddyn.
brako, braich; dento, dant; frato, brawd; infano, plentyn; libro, llyfr; maro, môr; tago, dydd; vorto, gair.
Nid oed cenedl (wrywaidd, fenywaidd) gan enwau Esperantaidd.
3.2. ANSODDEIRIAU. Terfyniad yr ansoddair yw -a. Ffurfir ansoddair drwy ychwanegu'r terfyniad hwn at y gwreiddyn: bona, da; feliĉa, hapus; libera, rhydd; longa, hir; rapida, cyflym; ruĝa, coch. Bona infano, plentyn da; longa libro, llyfr hir.
3.3. Ffurfir ansoddair o wreiddyn enwol, neu enw o wreiddyn ansoddeiriol, drwy newid y terfyniad yn syml:
denta, deintiol; frata, brawdol; infana, plentynnaidd; mara, morol; vorta, geiriol; a hefyd bono, daioni; feliĉo, hapusrwydd; rapido, cyflymder; ruĝo, cochni. Infana feliĉo, hapusrwydd pentynnaidd; ond feliĉa infano neu infano feliĉa, plentyn hapus.
3.4 ADFERFAU. Wrth ychwanegu'r terfyniad -e fe drior gair yn adferf, felly infane, yn blentynaidd; feliĉe, yn hapus; rapide, yn gyflym; vorte, yn eiriol, mewn geiriau. La infano bone kantas, mae'r plentyn yn canu'n dda.
Mae'r system hon yn hollol gynhyrchiol — felly mae'n bosibl rhoi unrhyw derfyniad ar ôl unrhyw wreiddyn, os oes ystyr gan y ffurf sy'n canlyn.
3.5. CYMHARIAETH. Ffurfir y graddau cymharol â geiriau arbennig: bona, da; tiel bona, cystal; pli bona, gwell; plej bona, gorau. Pli rapide, yn gyflymach; tiel forta, kiel mi, mor gryf â minnau; pli blanka ol neĝo, gwynnach na'r eira; la plej bela urbo en la mondo, y dref brydferthaf yn y byd.
3.6. LLUOSOG. Ffurfir y rhif lluosog drwy ychwanegu -j i enwau ac ansoddeiriau: brakoj, breichiau; dentoj, dannedd; fratoj, brodyr; infanoj, plant; libroj, llyfrau; maroj, moroedd; tagoj, dyddiau; vortoj, geiriau. Cytuna'r ansoddair â'i enw: longaj brakoj, breichaiu hir(ion); ruĝaj libroj, llyfrau coch(ion); la infanoj estas feliĉaj, mae'r plant yn hapus.
3.7. GWRTHRYCHOL. I ffurfio'r cyflwr gwrthrychol ychwanegir -n ar derfyn enw, rhagenw, neu ansoddair, unigol neu lluosog. Felly mae libro yn troi yn libron, a libroj yn librojn. Gwrthrychol y rhagenw mi yw min; gwrthrychol ili yw ilin. Mae terfyniad yr ansoddair yn newid yn ôl cyflwr yr enw y mae'n ei oleddfu: via patro (goddrychol), vian patron (gwrthrychol) 'eich tad'; longaj leteroj (goddrychol), longajn leterojn (gwrthrychol), 'llythyrau hirion'. Ni newidir y fannod na'r rhifolion: la libron, tri leterojn.
Defnyddir y cyflwr hwn i ddynodi gwrthrych y ferf (gw. 4.2 islaw).
Ychwanegir y terfyniad hwn i adferfau o le hefyd, i ddynodi cyfeiriad ('i ba le'): hejme gartref, yn nhre; hejmen, adref, tua thre.
3.8. BANNOD. La yw'r fannod, sydd âr un ffurf bob amser. La longa brako, y fraich hir; la infanoj, y plant. Nid oes bannod amhendant yn Esperanto.
3.9. CYFANSODDEIRIAU. Ffurfir geiriau cyfansawdd drwy gyfuno dau, tri, neu ychwaneg o wreiddiau'n un gair. Saif y prif wreiddyn ar y diwedd. Infanlibro (infan-libr-o), llyfr plant; vortordo, trefn geiriau; samtaga, o'r un dydd.
Er mwyn gwneud yr ynganiad yn rhwydd gellir rhoi terfyniad priodol (o neu a) ar ôl y rhan flaenaf o air cyfansawdd: dentopasto (dent-o-past-o), past dannedd; akvofalo, rhaeadr; nigrahara (nigr-a-har-a), â gwallt du; ĝustatempe, yn yr iawn bryd.
3.10. ATODIAID. Y mae gan Esperanto system o ragddodiaid ac olddodiaid, a ddefnyddir er mwyn adeiladu geiriau hirach. O'r gwreiddyn vid- (vidi, gweld), er enghraifft, fe ffurfir ekvido, cipolwg; revidi, ail-weld; vidado, y weithred o weld, golwg; vidaĵo, rhywbeth sydd yn cael ei weld, golygfa; videbla, y gellir ei weld, gweladwy; vidigi, peri i rywun weld, dangos; vidiĝi, cael ei weld, ymddangos; vidinda, yn haeddu ei weld, ac ati. Gellir hefyd greu ffurfiau cymhleth fel revidebligi, gwneud yn weledig unwaith eto. Gellir hyd yn oed adeiladu geiriau oddiwrth atodiaid yn unig, e.e. ebla, posibl; ebligi, gwneud yn bosibl; ilo, offeryn, erfyn; ilaro, set o offer; ero, gronyn; ereto, mymryn bach; diserigi, 'gwneud yn ronynnau yn wahân', malurio.
3.11. BERFAU. I'r ferf seml y mae chwech o derfyniadau:
-i (berfenw) kredi, credu; skribi, ysgrifennu -as (presennol) mi vidas, rydw i'n gweld; vi skribas, rydych chi'n ysgrifennu -is (gorfennol) mi vidis, rydw i wedi gweld, fe welais i; vi skribis, rydych chi wedi ysgrifennu, fe ysgrifennoch chi. -os (dyfodol) mi vidos, fe fydda i'n gweld, fe wela i; vi skribos, fe fyddwch chi'n ysgrifennu -us (amodol) se vi atendus, vi vidus, petaech chi'n aros, fe fyddech chi'n gweld -u (gorchmynnol) atendu, aros, arhoswch; vidu, gwêl, gwelwch, wele; skribu!, ysgrifenna, ysgrifennwch! 3.12. Gellir rhoi terfyniadau berfol i wreiddiau enwol neu ansoddeiriol, a therfyniadau enwol neu ansoddeiriol i wreiddiau berfol: rapidu!, byddwch yn gyflym! brysiwch!; kredo, cred, crediniaeth; skribo, ysgrifen. Demandi, gofyn; demando, cwestiwn; demanda, gofynnol.
3.13. RHAGENWAU. Dyma'r rhagenwau personol:
Cymer y rhagenwau personol yn y cyflwr gwrthrychol yr -n derfyniad: min, ilin (3.7).
mi myfi, mi, fi, i ci (nas defnyddir yn aml) tydi, ti li ef, fe, fo ŝi hyhi, hi ĝi (it Saesneg) ni nyni, ni vi chwychwi, chwi, chi ili hwynthwy, hwy, hwynt, nhw si ei hun, etc. (gw. 4.7) oni dyn, pobl, nhw (on y Ffrangeg) Ni newidir y ferf i ddangos rhif na pherson.
mi vidas rydw i'n gweld li vidas mae e'n gweld ŝi vidas mae hi'n gweld ni skribas rydyn ni'n ysgrifennu vi skribas rydych chi'n ysgrifennu ili skribas maen nhw'n ysgrifennu Ffurfir y rhagenwau personol meddiannol drwy ychwanegu'r -a ansoddeiriol: mia, fy; lia, ei (...ef); ŝia, ei (...hi); ĝia, (its Saesneg); via, eich; ilia, eu. Liaj libroj, ei lyfrau.
3.14. GEIRIAU CYDGYFATEBOL. Mae ffurfiad yr enwau, ansoddeiriau, adferfau a rhagenwau cydgyfatebol yn fwy trefnus yn Esperanto nag y mae mewn ieithoedd eraill. Seilir ar gyfuniadau o bump elfen dechreuol â naw elfen terfynol, fel y canlyn:
Gellir casglu ystyr y gair wrth ddadansoddi ei ffurf, e.e. io = rhyw + peth = rhywbeth; ĉiu = pob + unigolyn = pawb.
-o (rhagenw), peth -u (rhagenw ac ansoddair) unigolyn, un ti- (dangosol) hyn -a (ansoddair) math o ki- (gofynnol a pherthynol) pa, y -e (adferf) lle i- (amhendant) rhyw -es (meddiannol) eiddo ĉi- (cyffredinol) pob -al (adferf) rheswm, achos neni- (negyddol) nid, dim -am (adferf) amser -el (adferf) modd -om (adferf) maint Fe all y geiriau gydag -u ac -a dderbyn y terfyniadau -j ac -n, a gall y geiriau gydag -o ac -e dderbyn yr -n.
Kiuj libroj? pa lyfrau? Kion vi faras? Beth ydych chi'n ei wneud? Tien i'r fan yna. 3.15. RHIFOLION. Dyma'r prifolion. Nid ydynt yn newid eu ffurf.
1 unu 4 kvar 7 sep 10 dek 2 du 5 kvin 8 ok 100 cent 3 tri 6 ses 9 naŭ 1000 mil Ffurfir y degau a'r cannoedd drwy gysylltu'r rhifolion: 24 dudek kvar; 106 cent ses; 531 kvincent tridek unu; 1987 mil naŭcent okdek sep. Ok libroj, wyth llyfr, wyth o lyfrau. Yn Esperanto dilynnir y rhifolion (heblaw unu) gan luosog yr enw.
Dynodir trefnolion drwy ychwanegu'r -a ansoddeiriol at y prifolion: unua, cyntaf; dua, ail; tria, trydydd, ac yn y blaen. Trwy ychwanegu -e troir yn rhagferfau: unue, yn gyntaf, yn y lle cyntaf; due, yn ail; trie, yn drydydd.
Ffurfir ffracsiynau (rhanrifau) â'r olddodiad -on-: duono, hanner; triono, traean, un rhan o dair; tri kvaronoj, tri chwarter.
Dangosir rhifau plyg â'r olddodiad -obl: duobla, deublyg, dwbl; trioble, yn driphlyg. Ffurfir y cyfranolion drwy ychwanegu -op-: duope, bob yn ddau; kvaropo, pedwarawd.
3.16. RHANGYMERIADAU. Defnyddir -ant-, -int-, -ont- fel olddodiaid i ddangos rhangymeriadau gweithredol y ferf: skribanta (presennol), yn ysgrifennu; skribinta (gorffennol), wedi ysgrifennu; skribonta (dyfodol), ar fin ysgrifennu, yn mynd i ysgrifennu. La pasinta nokto, y nos a aeth heibio.
Ffurfir y rhangymeriadau goddefol â'r olddodiad -at-, -it-, -ot-: vidata, sy'n cael ei weld, gweledig; skribita, sy wedi ei ysgrifennu, ysgrifenedig; skribota, sy'n mynd i gael ei ysgrifennu, a ysgrifennir. Frititaj terpomoj, tatws wedi eu ffrio.
Y terfyniad -o sydd yn troi hyn yn enw person: skribanto, un sy'n ysgrifennu, ysgrifennwr; vidinto, un sy wedi gweld; amato, un sy'n cael ei garu, cariad; kaptito, un sy wedi ei ddal, carcharor. Y terfyniad -e sydd yn eu troi'n adferf: skribinte, ar ôl ysgrifennu; instruante ni lernas, wrth addysgu rydyn ni'n dysgu.
Trwy gyfuno esti (bod), fel berf gymorth, gyda rhangymeriad, mae'n bosibl ffurfio amserau cyfansawdd: ni estis skribontaj, yr oeddem ar fin ysgrifennu; se ŝi estus forgesinta, pe bai hi wedi anghofio.
3.17. Y FERF ODDEFOL. Ffurfir y goddefol yr un ffordd, sef drwy gyfuno esti gyda rhangymeriad goddefol. Mae'r olddodiad -ita yn y gystrawen hon yn mynegi gweithred sydd wedi ei chyflawni: esti savita, cael ei achub; mi estis savita, ces i fy achub; li estis vundita, fe gafodd ei anafu; estis decidite, ke ni iru, fe benderfynwyd i ni fynd. Mae'r olddodiad -ata yn mynegi sefyllfa sydd yn mynd ymlaen neu ystad barhaol: ŝi estas amata, mae hi'n cael ei charu, fe'i cerir hi; tiuj faktoj estis sciataj, yr oedd y ffeithiau hyn yn wybyddus. Yr arddodiad de sy'n mynegi 'gan': li estis atakita de rabistoj, ymosodwyd arno gan ladron.
4. Cystrawen
4.1. GODDRYCH A GWRTHRYCHOL. Mae gan enwau a rhagenwau Esperanto ddau gyflwr, sef y goddrychol a'r gwrthrychol (3.7).
Defnyddir y cyflwr GODDRYCHOL (libro, mi, via patro, longaj leteroj)
- i ddynodi goddrych y ferf;
- i ddynodi dibeniad y cyplad (esti neu gyffelyb);
- ar ôl arddodiad;
- fel enw cyfarchol.
- La libro malaperis. Mae'r llyfr wedi diflannu.
- Mi estas lernanto. Rydw i'n ddysgwr. La infanoj estas tre kontentaj. Mae'r plant yn fodlon iawn.
- Li parolis al via patro. Roedd e'n siarad wrth eich tad. Ili sidis en la ĉambro apud la fajro. Yr oeddynt yn eistedd yn yr ystafell wrth y tân.
- Venu, Davido! Dewch, Dafydd!
4.2. Y GWRTHRYCHOL. Defnyddir y cyflwr gwrthrychol (-n) ym mhob safle arall na soniwyd amdano uchod (i-iv), ac yn arbennig i ddangos gwrthrych berf anghyfiawn:
v.
Davido legis la libron. Darllenodd Dafydd y llyfr.Iu vidis min. Gwelodd rhywun fi, mae rhywun wedi fy ngweld.Li atendas vian patron. Mae e'n disgwyl eich tad.Hieraŭ mi ricevis tri longajn leterojn. Ddoe derbyniais i dri llythyr hir.Dangosir defnyddiau eraill y cyflwr gwrthrychol yn yr enghreifftiau canlynol, lle gellir dweud i'r -n gymryd lle arddodiad wedi ei adael allan.
vi.
Li atendis du horojn (neu: dum du horoj). Arhosai am ddwy awr.La libro kostas dek dolarojn (neu: po dek dolaroj). Mae'r llyfr yn costio deg o ddoleri.Mi alvenos lundon (neu: je lundo). Fe gyrhaeddaf ddydd Llun.Rilate tiun ideon (neu: al tiu ideo). Ynghlwm wrth y syniad hwn.vii. Defnyddir y gwrthrychol mewn cyfarchiadau hefyd:
Bonan matenon! Bore da!Saluton! Hylo! Sut mae! (Ystyr yr ymadrodd yw Mi deziras al vi saluton, etc.)viii. Pan osoder y gwrthrychol ar ôl arddodiad lle, mae'n dynodi 'symudiad tua': en la domon, i mewn i'r tŷ. Cymharer en la domo, yn y tŷ. (Ni defnyddir -n ar ôl al neu el, sy'n dynodi symudiad yn barod.) Yn yr ystyr hon ychwanegir -n yn aml i adferfau (3.7):
Li venis hejmen. Fe ddaeth ef adref.Kien vi iras? (I) b'le rydych chi'n mynd?4.3. Y TRAETHIADOL. Defnyddir y goddrychol bob amser ar ôl esti neu gyffelyb (dosbarth ii uchod). Felly ni cheir y terfyniad -n ar ôl ŝajni ymddangos, resti aros, fariĝi, iĝi mynd yn, etc.:
Ŝi ŝajnas kontenta. Mae hi'n ymddangos yn fodlon.Li restis prezidanto. Arhosodd yn llywydd.Mewn brawddegau o'r fath ganlynol mae esti yn ddealledig.
Ĉu vi opinias lin malsana? Ydych chi'n meddwl ei fod yn sâl?La membroj elektis lin prezidanto. Etholodd yr aelodau ef yn llywydd.Ni farbu la muron flava. Gadewch i ni baentio'r wal yn felyn.Li lasis la pordon nefermita. Fe adawodd y drws yn agored.4.4. TREFN GEIRIAU. Gan fod y gwahaniaeth rhwng goddrych a gwrthrych yn cael ei ddangos drwy'r terfyniad -n, mae'n bosibl newid safle goddrych a gwrthrych mewn brawddeg heb achosi camddealltwriaeth. Yn lle Davido vidis vian patron (Gwelodd Dafydd eich tad), fe ellir dweud Vian patron vidis Davido, Vian patron Davido vidis, etc., heb newid yr ystyr sylfaenol. (Cymharer Davidon vidis via patro, Gwelodd eich tad Ddafydd.) Mae'r frawddeg Gymraeg 'Dafydd a welodd eich tad' yn amwys: pwy a welodd bwy? Ond yn Esperanto ceir naill ai Davido vidis vian patron neu Davidon vidis via patro (mewn unrhyw drefn), ac mae'r ystyr bob amser yn eglur.
4.5. CYMALAU PERTHYNOL. Gall y rhagenw perthynol fod yn oddrych neu ynteu'n wrthrych berf ei gymal ei hun. Y ffurf oddrychol yw kiu, lluosog kiuj; y ffurf wrthrychol yw kiun, lluosog kiujn.
Felly, la viro, kiu vidis min, y dyn a'm gwelodd; la viro, kiun mi vidis, y dyn a welais.
Li prenis la pomojn, kiuj restis en la korbo. Fe gymerodd e'r afalau oedd ar ôl yn y fasged.Jen estas la pomoj, kiujn mi lasis sur la tablo. Dyna'r afalau yr wyf wedi eu gadael ar y bwrdd.Jen la viro, pri kiu mi parolis. Dyma'r dyn yr oeddwn i'n siarad amdano.Ar ôl ĉio, io, nenio, tio defnyddir kio, nid kiu: io, kio ne estas ĝusta, rhywbeth sydd o'i le; tio, kion mi vidis, yr hyn a welais; ĉio, kion mi havas, y cwbl sy gennyf.
4.6. BERFAU AMHERSONOL. Gyda berfau'n disgrifio tywydd ni ddefnyddir rhagenw yn Esperanto: mae'r berfau hyn yn amhersonol. Ni chyfieithir Cymr. hi. Felly neĝas, mae hi'n bwrw eira; pluvis dum la tuta nokto, bu hi'n bwrw glaw gydol y nos; estis tre malvarme, yr oedd hi'n oer iawn.
(Ar y llaw arall, mae'n rhaid defnyddio rhagenw pan fo'r ferf yn bersonol: ĝi malaperis, diflannodd (e.e. llyfr neu ddrychiolaeth).)
Ceir yr un peth gyda berfau amhersonol eraill, e.e. ŝajnas, ke mi forgesis, ymddengys i mi anghofio; estas domaĝe, ke ŝi ne venis, gresyn na ddaeth hi; estas nekredeble, ke li faris tiom da eraroj, mae'n anhygoel iddo wneud cymaint o gamgymeriadau.
Sylwer mai adferf, nid ansoddair, a ddefnyddir gyda berf amhersonol: (estas) bedaŭrinde, (ke) li rifuzis, mae'n anffodus iddo wrthod; yn anffodus, mae e wedi gwrthod.
4.7. YR ATBLYGOL. Pan fydd gwrthrych yn cyfeirio at yr un person neu'r un peth sydd yn oddrych y ferf, defnyddir y rhagenw atblygol si ('ei hun, eu hun') yn lle li, ŝi, ĝi, ili, oni. Felly Rikardo defendis sin, amddiffynnai Rhisiart ei hun; ŝi preparis sin por la prelego, paratodd hi ei hunan ar gyfer yr araith. (Yn Gymraeg defnyddir y rhagddodiad ym- weithiau yn yr ystyr hon: ymbaratodd.) Byddai li defendis lin yn golygu iddo amddiffyn rhywun arall.
Yr ansoddair cyfatebol yw sia: felly li vidis sian filon, gwelodd ef ei fab (ei fab ei hun); ili parolis pri siaj amikoj, yr oeddynt yn siarad am eu ffrindiau.
Ni all si, sia weithredu fel goddrych. Venis Petro kaj lia edzino, fe ddaeth Pedr a'i wraig (nid: kaj sia edzino).
4.8. HOLI AC ATEB. Ceir dau fath o gwestiynau: y rhai sydd yn gofyn a ydyw rhywbeth yn wir, a'r rhai sydd yn gofyn am wybodaeth mwy penodol. Yn Esperanto, ffurfir y naill gyda'r geiryn ĉu, a, ai, a'r lleill gyda gair cydgyfatebol yn dechrau â ki- (3.14). Gellir ateb y teip cyntaf drwy jes (Saes. yes) neu ne (Saes. no).
Ĉu vi finis vian laboron? — Jes. Ne.Ydych chi wedi gorffen eich gwaith? — Ydw. Nac ydw.Ĉu Maria legis tiun libron? — Jes. Ne.A ddarllennodd Mair y llyfr hwn? — Do. Naddo.Ĉu do li estas instruisto? — Jes. Ne.(Ai) athro yw e felly? — Ie. Nage.Kiu estas tiu? Pwy yw hwn? (— Mia patro. Fy nhad.)Kion vi faras? Beth ydych yn ei wneud? (— Mi kantas. Rwy'n canu.)Kies tombo tio ĉi estas? Bedd pwy yw hwn? (— De la norvego. Y Norwywr.)Pri kio ili parolas? Beth maent yn siarad amdano?Ffurfir cwestiynau anuniongyrchol yn yr un modd.
Demandu ŝin, ĉu ŝi havas monon. Gofynnwch iddi a oes ganddi arian.Mi scias, kion fari. Mi wn beth i'w wneud.4.9. ANGYFLAWN A CHYFLAWN. Mae berfau yn ymranni'n ddau ddosbarth cystrawennol: anghyflawn (a.) a chyflawn (c.). I ddosbarth (a.) y perthyn berfau a all gymryd gwrthrych, e.e. skribi, ysgrifennu (mi skribis leteron, ysgrifennais lythyr), fermi, cau (mi fermis la pordon, caeais y drws). I ddosbarth (c.) y perthyn berfau na allant gymryd gwrthrych, e.e. malaperi, diflannu (ili ĉiuj malaperis, maent hwy i gyd wedi diflannu), fali, syrthio (la libro falis, syrthiodd y llyfr).
Yn Gymraeg gellir defnyddio nifer fawr o ferfau yn gyflawn neu'n anghyflawn, ond yn Esperanto mae pob berf naill ai'n anghyflawn neu'n gyflawn. Ystyr movi yw 'symud' (a.): mi movis la tablon, symudais y ford. Er mwyn troi berf anghyflawn yn ferf gyflawn, -iĝ- yw'r olddodiad priodol: la tablo moviĝas, mae'r ford yn symud. Ystyr boli yw 'berwi' (c.): la akvo bolas rapide, mae'r dŵr yn berwi'n gyflym. Er mwyn cyfieithu ystyr anghyflawn 'berwi', mae rhaid ychwanegu'r olddodiad -ig-: mi boligos la akvon, fe fydda i'n berwi'r dŵr.